Rhun ap Iorwerth
Rhun ap Iorwerth AS | |
---|---|
Rhun ap Iorwerth yn 2021 | |
Arweinydd Plaid Cymru | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 16 Mehefin 2023 | |
Dirprwy | Siân Gwenllian Delyth Jewell |
Rhagflaenwyd gan | Adam Price Llyr Huws Gruffydd (dros dro) |
Aelod o'r Senedd dros Ynys Môn | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 2 Awst 2013 | |
Rhagflaenwyd gan | Ieuan Wyn Jones |
Mwyafrif | 9,166 |
Manylion personol | |
Ganed | Tonteg, Pontypridd | 27 Awst 1972
Plaid gwleidyddol | Plaid Cymru |
Plant | 3 |
Cartref | Llangristiolus, Ynys Môn |
Proffesiwn | Newyddiadurwr |
Gwefan | Gwefan wleidyddol |
Gwleidydd Plaid Cymru a chyn-newyddiadurwr o Gymro yw Rhun ap Iorwerth (ganed 27 Awst 1972)[1]. Rhun yw arweinydd Plaid Cymru ers 16 Mehefin 2023.
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Ganwyd Rhun yn Nhon-teg, Rhondda Cynon Taf[2] yn fab i Edward Morus Jones a Gwyneth. Roedd ei dad yn brifathro ac yn rhan o'r ddeuawd 'Dafydd Iwan ac Edward' a 'Chwm Rhyd y Rhosyn'. Roedd ei fam yn athrawes ac wedi gweithio gyda Mudiad Meithrin a Merched y Wawr.[3]
Mynychodd Ysgol Rhyd-y-Main, Dolgellau am ychydig, cyn symud i Ynys Môn a mynychu Ysgol Gynradd Llandegfan, cyn cael ei addysg uwchradd yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy.[4] Yna aeth i Brifysgol Caerdydd ble graddiodd yn y Gymraeg a Gwleidyddiaeth yn 1993.[2]
Gyrfa newyddiaduraeth
[golygu | golygu cod]Ymunodd Rhun gyda BBC Cymru ym 1994, a bu'n gohebu ar ddigwyddiadau San Steffan a Bae Caerdydd ar deledu a radio. Roedd hefyd yn gyflwynydd ar raglenni Post Cyntaf a Dau o'r Bae ar Radio Cymru ac ar Newyddion S4C, yn ogystal a rhaglenni Saesneg y BBC fel The Politics Show Wales a Dragon's Eye.[2]
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Gadawodd Ieuan Wyn Jones ei swydd fel aelod o'r Senedd dros Ynys Môn i arwain parc gwyddoniaeth newydd M-SParc. Yn dilyn hyn, a chyn yr isetholiad ar gyfer yr ynys yn 2013, ymddiswyddodd Rhun o'r BBC ac fe gafodd enwebiad Plaid Cymru i fod yn ymgeisydd.[2] Daeth yn Aelod o'r Senedd dros Ynys Môn yn Awst 2013 ar ôl ennill yr isetholiad yn gyfforddus.[2][5]
Yn 2018, dywedodd arweinydd Plaid Cymru ar y pryd, Leanne Wood, y byddai'n croesawu her i'w arweinyddiaeth. Ar y diwrnod hwnna lawnsiwyd ymgyrchoedd Rhun ac Adam Price ar gyfer yr arweinyddiaeth. Enillodd Adam Price gyda 49.7% o'r pleidleisiau a chafodd Rhun ap Iorwerth 28% a Leanne Wood, 22.3%.[2]
Yn dilyn ymddiswyddiad Adam Price fel arweinydd Plaid Cymru, ar 30 Mai 2023 cyhoeddodd Rhun y byddai yn sefyll fel ymgeisydd ar gyfer yr arweinyddiaeth. Ni chafwyd unrhyw ymgeisydd arall erbyn y dyddiad cau a cadarnahwyd Rhun fel yr arweinydd newydd ar 16 Mehefin 2023.[5]
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cofnod Twitter ar ei ben-blwydd. Rhun ap Iorwerth (27 Awst 2012). Adalwyd ar 14 Ebrill 2016.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 "Plaid Cymru: Pwy yw'r arweinydd newydd Rhun ap Iorwerth?". BBC Cymru Fyw. 2023-06-16. Cyrchwyd 2024-06-02.
- ↑ Shipton, Martin (2013-08-03). "Rhun ap Iorwerth: My mother's death pushed me into politics". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-04-21.
- ↑ Elgan Hearn (30 Tachwedd 2011). Ysgol David Hughes hold a school "hawl i holi" meeting with local politicians. Daily Post. Adalwyd ar 2 Awst 2013.
- ↑ 5.0 5.1 "Rhun ap Iorwerth yw arweinydd newydd Plaid Cymru". Golwg360. 2023-06-16. Cyrchwyd 2023-06-16.